1931-2019
______________________________________
Seiciatrydd a hanesydd meddygol.
Cymro pybyr a dyn ei filltir sgwâr.
gan Donald Williams
Bu farw fy ffrind a’m cyn-gydweithiwr, Thomas Gruffydd Davies, yn 87 oed ar ôl cyfnod o lesgedd graddol.
Ganwyd a magwyd Tom ym Mlaendulais, pentref glofaol ym mlaenau Nedd, yn fab i Gwilym a Katie Davies. Fe’i ganed â choes dde a oedd yn fyrrach a gwannach na’r llall. Amharwyd yn ddifrifol ar ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd oherwydd osteomyelitis yn dilyn llawdriniaeth pan dorrodd asgwrn ei forddwyd dde. Roedd yn un o’r cleifion cyntaf yn Ysbyty Cyffredinol Castell-nedd i gael penisilin.
Cymerodd amser hir cyn iddo allu dychwelyd i’r ysgol, a bu’n gloff drwy gydol ei fywyd. Ar ôl llwyddo yn ei arholiadau Lefel ‘O’, dechreuodd weithio yn adran batholeg yr ysbyty lleol. Astudiodd ar gyfer arholiadau Lefel ‘A’ mewn ysgol nos, a chafodd ei dderbyn yn fyfyriwr hŷn na’r arfer gan Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn ffarmacoleg a therapiwteg.
Wedi cyfnod o wneud gwaith meddyg iau yng Nghaerdydd, a chyfnodau o feddygaeth deuluol, daeth yn feddyg iau yn Ysbyty Cefn Coed, Abertawe, ysbyty seiciatrig traddodiadol, yn 1961. Yno cyfarfu â Dr Rosina Davies, cydweithiwr ifanc, a ddaeth yn wraig iddo yn 1970. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe’i penodwyd yn seiciatrydd ymgynghorol yn yr ysbyty.
Pan ad-drefnwyd Llywodraeth Leol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fuan wedyn, roedd Tom yn allweddol o ran cyflwyno gweithdrefn yn yr ysbyty a fyddai’n sicrhau gofal di-dor i gleifion. Roedd hyn yn golygu cael timau amlddisgyblaethol â chyfrifoldeb dros ddalgylchoedd a oedd yn cyd-ffinio â gwasanaethau iechyd a cymdeithasol.
Roedd Tom wedi ymrwymo i addysg ôl-raddedig a bu’n diwtor clinigol am 13 blynedd. Pan gâi gyfle, byddai’n mynd i lyfrgell y brifysgol i weithio ar ei brosiectau niferus.
Yng nghanol y 1970au, ef oedd cyd-sylfaenydd ac ysgrifennydd cyntaf Y Gymdeithas Feddygol. Yn ddiweddarach, golygodd gylchgrawn y gymdeithas, Cennad, a’i chylchlythyr. Am dair blynedd, bu’n gadeirydd effeithiol ar Adran Seiciatreg Gorllewin Morgannwg.
Ar ôl rhoi’r gorau i waith y GIG, gwasanaeth y bu mor ymroddgar iddo, treuliodd Tom y rhan fwyaf o’i amser yn hanesydd meddygol, yn ogystal â gwneud gwaith ymchwil, addysgu ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, darlithio ac ysgrifennu. Byddai ei ysgrifau ar amrywiaeth o destunau yn ymddangos yn rheolaidd yn y Gymraeg a’r Saesneg hyd at flwyddyn olaf ei fywyd.
Bu’n hyrwyddo Ernest Jones, ffrind agos, cydweithiwr a bywgraffydd Sigmund Freud. I goffáu canmlwyddiant geni Ernest Jones, cynhyrchodd Tom gofiant dwyieithog, a sicrhaodd fod plac glas yn cael ei osod ar y tŷ yn Abertawe lle cafodd ei eni.
Heb amheuaeth, Tom oedd prif hanesydd meddygol Cymru, a chydnabuwyd ei gyfraniad enfawr pan gafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain yn 2005.
Am flynyddoedd lawer roedd wedi gweithio’n ddyfal yn casglu manylion am y meddygon a fu’n gweithio yn Abertawe a Chastell-nedd cyn diwedd y 19eg ganrif. Y deunydd hwn oedd sail ei lyfr olaf, sef To Stand by the Sick Bed – Towards a History of Medical Practice in Swansea. Cwblhawyd y gyfrol hon, ei gampwaith, yn 2018, ond bu farw ym mis Ionawr eleni, cyn i’r llyfr gael ei gyhoeddi
Er iddo gael gyrfa glinigol ac academaidd nodedig, roedd Tom yn berson diymhongar a oedd yn Gymro i’r carn ac yn deyrngar i’w filltir sgwâr ym Mlaendulais. Hyd nes iddo symud i Gaerdydd ychydig cyn ei farwolaeth, roedd wedi chwarae rhan flaengar ym mywyd diwylliannol a chrefyddol yr hen gymuned lofaol.
Mae teulu a chylch eang o ffrindiau Tom yn ymfalchïo yn y gŵr nodedig hwn a’i etifeddiaeth. Gedy weddw, merch, mab a dau o wyrion.
* Ganed Tom Davies yn 1931.
Bu farw ar 26 Ionawr 2019.