Swyddi
Yma gallwch weld hysbysebion am swyddi meddygol drwy Gymru.
Meddyg teulu – locwm dros gyfnod mamolaeth
Canolfan Iechyd Llanfairpwll & Meddygfa Penbryn, Ynys Môn
Y swydd
Meddyg teulu locwm dros gyfnod mamolaeth un o’r partneriaid
6 sesiwn/3 diwrnod bob wythnos
Mis Mawrth hyd at fis Medi 2021
Amseroedd dechrau hyblyg
Y feddygfa
Mae Canolfan Iechyd Llanfairpwll a Meddygfa Penbryn yn bractis gwledig sydd â 8240 o gleifion. Mae gan y ddwy feddygfa sydd wedi’u rheoli’n dda gyfoeth o offer ac mae ganddynt safon uchel o ofal gyda phwyslais ar ansawdd, dilyniant a meddygaeth deuluol draddodiadol.
Mae’r tîm yn cynnwys chwe phartner meddyg teulu, 1 meddyg teulu cyflogedig ac 1 Uwch Ymarferydd Nyrsio rhan-amser. Gyda thîm nyrsio ardderchog sydd â sgiliau rheoli clefydau cronig a thîm cymorth gweinyddol cydwybodol a ffyddlon.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o fanylion neu ar gyfer ymholiad anffurfiol dros y ffôn, ffoniwch
Linda West, Rheolwr y Practis 01248 430253 neu e-bostiwch linda.west@wales.nhs.uk
Meddyg teulu
Meddygfa Bodnant, Bangor, Gwynedd
Y feddygfa
- Lleoliad braf ym Mangor Uchaf, yn agos at y Brifysgol.
- Darparu gofal cynradd i’r boblogaeth leol a myfyrwyr prifysgol (rhestr cleifion oddeutu 11.5k)
- 7 meddyg sy’n bartneriaid ac un sy’n gyflogedig, tair nyrs a dwy weinyddes gofal iechyd, fferyllydd clinigol, awdiolegydd ac ymarferydd ffisiotherapi.
- Tîm gweinyddol gwerth chweil
- Rydym yn hyfforddi myfyrwyr o brifysgolion Manceinion, Lerpwl a Chaerdydd
- O fewn clwstwr gofal cynradd Arfon (un o’r partneriaid sy’n arwain y clwstwr)
- Rydym yn defnyddio system blaenoriaethu dros y ffôn ac ymgynghoriadau fideo ar gyfer cysylltiad â chleifion yn ystod cyfnod Covid 19; yn ogystal â defnyddio system blaenoriaethu wyrdd (dim gwres) a choch (gwres) ar gyfer ymgynghoriadau wyneb-yn-wyneb
- System gyfrifiadurol glinigol EMIS web a system accuRx ar gyfer ymgynghori fideo.
- Meddygfa gyfeillgar sydd â phwyslais ar y cyd-bwysedd rhwng gwaith a gorffwys
- Meddygfa ddwyieithog – croesewir y gallu i siarad Cymraeg
Swydd meddyg teulu cyflogedig
- 6 sesiwn yr wythnos (i’w drafod)
- Cyfle i ddod yn bartner yn y dyfodol
- Cyflog i’w drafod – yn ddibynnol ar ymrwymiad “ar alwad” (rhwng 8am a 6.30pm)
- Cytundeb sydd wedi cael sêl bendith y BMA
- Cyfnod dros dro o locwm mamolaeth ar gael yn ogystal – cysylltwch i drafod
Am fwy o wybodaeth neu os am roi cynnig arni, cysylltwch â rheolwr y feddygfa, Colleen.Owen@wales.nhs.uk, tel: 01248 363787
Meddyg teulu
Meddygfa Waunfawr, Gwynedd
Rydym yn chwilio am feddyg teulu brwdfrydig i fod yn bartner ac i wneud 4 sesiwn yr wythnos er mwyn atgyfnerthu ein tîm clinigol, cyn i ni symud i adeilad newydd yn 2022. Rydym yn feddygfa drylwyr ddwyieithog sy’n gwasanaethu ardal rannol wledig. Rydym yn falch o enw da y practis a’n cyraeddiadau uchel sydd yn adlewyrchiad o ymrwymiad a chymhelliant yr holl dîm.
Mae gan y practis:
- 6000 claf
- 2 feddygfa gyda dispensari yn y ddwy
- 4 Meddyg teulu, 2 ANP, 3 PN a 3 HCA
- System gyfrifiadurol EMIS
Mae’r practis hefyd yn hyfforddi myfyrwyr meddygaeth graddedig Gogledd Cymru (C21) ac yn mentora myfyrwyr chweched dosbarth.
Mae’r dyddiad cychwyn yn hyblyg. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30/11/2020. Os hoffech sgwrs anffurfiol neu wneud cais, cysylltwch â’n rheolwr practis tegwen.hughes@wales.nhs.uk.