Yma cewch ddarllen am be all wneud meddygaeth yn ddewis gyrfa gwych
Os ydych yn cysidro meddygaeth fel gyrfa, yma cewch wybod mwy am beth sy’n gwneud y pwnc mor unigryw. Ai meddygaeth yw’r dewis iawn i chi? Darllenwch ymlaen i wybod beth yr ydych angen i fod yn feddyg da.
Pam astudio meddygaeth?
- Cewch yrfa heriol, gyffrous, wobryol mewn maes blaengar sydd o hyd yn datblygu
- Rydych yn gymorth i gleifion ac yn gwneud gwîr wahaniaeth i’w bywydau
- Gellir cael swydd unrhyw adeg, ymhobman drwy’r byd ac o fewn Cymru
- Mae dewis enfawr o eang yn y mathau gwahanol o feddygaeth
- Mae’n waith pwysig gyda chyfrifoldeb, ac felly gyda tâl da
Mae’r corff dynol yn anghygoel, ac mae dysgu am sud mae’n gweithio a beth all fynd o’i le yn du hwnt o ddiddorol. Beth sy’n gwneud meddygaeth yn wahanol yw bod rhaid cyfuno’r wybodaeth wyddonol yma gyda’r sgil o ymwneud gyda pobl, sydd gyda’u pryderon, blaenoriaethau, a’u meddyliau eu hunain. Mae’n grefft cydweithio’r ddau rinwedd yma, ac un sy’n rhoi boddhad anghygoel os yw’n llwyddiannus.
Pan mae problem wedi ei adnabod mae’n foddhad gwell eto gwneud rhywbeth sydd yn ei ddatrys, ac wrth wneud hyny yn gwella bywyd eich claf. Cydradd bwysig yw hyrwyddo llês, ac addysgu pobl am y rheolaeth sydd ganddynt dros eu iechyd eu hunain. Drwy wneud hyn gall ein cleifion fyw bywydau hirach, iachach, a hapusach.
Mae meddygaeth yn faes sydd yn datblygu’n barhaol. Mae’r gwyddoniaeth a’r dechnoleg yn newid drwy’r amser, gyda datblygiadau cyffrous yn dod ar gael i feddygon yn gyson. Ceir dewis eang o is-feysydd feddygol, gyda dros 60 arbennigedd ar gael. Os ewch yn feddyg byddwch yn cyd-weithio gyda tîm o bobl o bob mathau o feysydd gwahanol.
Bydd salwch o hyd yn ein effeithio, felly mae gradd mewn meddygaeth yn mynd i’ch galluogi i cael swydd ar unrhyw adeg. Mae angen galleuon penodol i wneud y swydd, sydd ynghyd a’r cyfrifoldeb yn golygu ei fod yn talu’n dda. Bydd meddyg iau yn ennill rhwng £23,000 a £34000 yn eu blwyddyn cyntaf, a bydd hyn yn codi’n sylweddol wedyn drwy eu gyrfa. Gellir cael swydd rhywle yn y byd fel meddyg, o ddinasoedd i gefn gwlad.
Y llwybr hyfforddi
Dyma’r llwybr arferol o gychwyn ysgol feddygol hyd orffen hyfforddi
Gellir gwneud blwyddyn ychwanegol (‘intercalated’) yng nghanol y pum mlynedd ysgol feddygol sydd ar wahân i’r cwrs, sy’n rhoi cyfle i chi arbennigo mewn pwnc o’ch dewis a gwneud ymchwil.
Heb y pynciau anghenrheidiol?
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig cwrs meddygol gyda blwyddyn ychwanegol ar y cychwyn, sy’n rhoi addysg mewn pynciau sy’n cael eu cysidro’n angenrheidiol i allu astudio meddygaeth.
Ôl-raddedigion
Os ydych wedi gwneud grâdd eisioes gallwch geisio i wneud cwrs arbennig ôl-raddedig mewn 13 prifysgol ym Mhrydain. Yn ogystal i’r anghenion arferol bydd angen eistedd yr arholiad GAMSAT.
Pa rinweddau sydd eu hangen?
- Mae rhaid bod yn empathig a thosturiol i ymwneud â phobl gyda salwch
- Rhaid bod yn gyfathrebwr da i gael y gorau o’ch perthynas a’ch claf a’ch cyd-weithwyr
- Bydd rhaid cael gallu academaidd gan ei fod yn bwnc cymhleth
- Mae rhaid bod yn weithgar, a gallu ymdopi gyda oriau hir
- Rhaid ymdopi’n dda gyda phwysau a chyffro’r gwaith, a gallu ymlacio tu allan i’r gwaith
- Mae trefnu amser yn eithriadol bwysig, fel rhan o ddysgu ac o’r gwaith ei hun
- Rhaid bod yn gyffyrddus gyda risg, a derbyn gall cangymeriadau ddigwydd
- Rhaid bod yn hyderus, gyda’r gallu i arwain pobl a mynegi barn
Ai meddygaeth yw'r dewis iawn i mi?
Meddygaeth yw un o’r gyrfaoedd gorau sydd ar gael, ond dydi o ddim i bawb, a gwnewch yn siwr eich fod yn ei ddewis am y rhesymau cywir! Os ydych o dan bwysau i’w wneud gan rieni neu unrhywun arall, cymerwch gam yn ôl a chysidro os mai dyma beth ydych chi eisiau. Os ydych yn penderfynnu bwrw iddi, grêt! Os ddim, mae digon o yrfaoedd eraill difyr a boddhaol ar gael i chi.
- Mae’r hyfforddi a’r addysg yn ddwys, ac yn parhau ar ôl graddio hyd ddiwedd eich gyrfa
- Gallwch fod o dan bwysau yn eich gwaith, gweithio oriau hir a gwrth-gymdeithasol
- Byddwn yn trîn pobl sâl a sy’n marw, felly gall fod yn waith emosiynol iawn
- Yn aml mae’r hyfforddi yn gofyn i chi symud o gwmpas, weithiau am gyfnodau hir
- Nid yw swyddi ym mhob arbennigedd ar gael drwy’r wlad i gyd
- Mae cystadleuaeth i gael lle mewn ysgol feddygol, ac yna i ddyrchafu yn eich gyrfa
- Mae côst sylweddol i fynychu ysgolion feddygol
Does dim swydd yn berffaith, ac er yr uchod mae swydd fel meddyg ur un o’r goreuon yn y byd! Mae’r gwaith yn galed ond mae’r boddhâd werth hynny. Mae ymwneud a phobl sy’n dioddef yn heriol a thrîst, ond mae’r teimlad o wella eu sefyllfa yn un gwych.
Fel myfyriwr rhaid treulio amser mewn ysbytai am gyfnodau all fod yn rhai wythnosau, ac yn aml bydd hyn mewn ysbytai ymhell o’r brifysgol. Wedi graddio mae cystadleuaeth am swyddi mewn rhai ysbytai, felly drwy ddewis rhai arbennigeddau efallai bydd rhaid cyfaddawdu ar lle byddwch yn ymgartrefu. Ond mae’n gyfle i ddod i adnabod rhannau newydd o’r wlad, gnwneud gweithgareddau unigryw i ardal, a chwrdd a phobl newydd.
Cysidrwch y gôst o fynychu prifysgol yn fuddsoddiad yn eich hun. Wedi graddio gyda meddygaeth cewch yrfa sy’n talu’n dda sy’n galluogi i chi dalu’r ddyled hyfforddi a mwynhau’r buddion am weddill eich bywyd.