Newyddion

Teyrnged i’r diweddar Dr Denzil Davies

Newydd gynnal ein cynhadledd flynyddol mae’r Gymdeithas Feddygol. Hon oedd y gyntaf ers dwy flynedd oherwydd COVID. Roedd sawl peth yn anarferol amdani – y ffaith ei bod ar lein a’r ffaith nad oedd Dr Davies yno. Roedd yn un o’r 35 yn ein cynhadledd gyntaf erioed ym Mhlas Maenan, Llanrwst yn 1975 a bu’n cadeirio sesiynau gwyddonol yn yr 80au a’r 90au. Hyd yn oed wedi iddo ymddeol fel Meddyg Teulu, roedd yn ffyddlon tu hwnt i’n cyfarfodydd ac yn gwrando’n astud ar bob sgwrs o bob arbenigedd, a Beti Wyn gydag e yn gwmni. Roedd yn gefnogol a chroesawgar tuag at y myfyrwyr a’r meddygon ifanc fu’n rhan blaenllaw o’n cynadleddau diweddar, a throsglwyddodd y diddordeb a’r brwdfrydedd i genhedlaeth nesaf ei deulu ei hunan hefyd. Meddygaeth a iechyd a pharhau i ddysgu ac arloesi oedd ei ddilèit. Hyd yn oed yn ei farwolaeth, mae’n cyfrannu at ofal meddygol pobl Cymru gyda’r casgliad at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolchwn fel Cymdeithas gyfan am Dr Denzil Davies a’i gyfraniad hir oes: mi fydd bwlch ar ei ôl yn ein cynhadledd fyw nesaf. Pob cydymdeimlad i’r teulu i gyd – bydd y bwlch ar yr aelwyd honno yn fwy byth.
Rhannwch hwn..

Dr Dafydd Alun Jones 1930-2020

Ar Fai’r 6ed 2020, cyhoeddwyd y newyddion trist am farwolaeth un o aelodau gwreiddiol y Gymdeithas Feddygol, ac un o seiciatryddion amlycaf Cymru yn y ugeinfed ganrif, Dr Dafydd Alun Jones.

Er mai gyda Dinbych a Thalwrn y cysylltir ei enw gan amlaf, brodor o Benmachno oedd Dafydd Alun. Yn llencyn ifanc, mudodd y teulu i Landegai. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, ac yn ôl pob sôn, oherwydd ei lwyddiant ysgubol yng nghanlyniadau ei arholiadau terfynol, cafodd ei gyd-ddisgyblion ddiwrnod annisgwyl o wyliau i ddathlu ei lwyddiant!

Oddi yno, aeth am gyfnod i weithio o fewn y diwydiant atomig yn Windscale (Sellafield bellach), ac yn ystod y cyfnod yma fe benderfynodd newid byd a chychwyn ar yrfa Feddygol. Fe fu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Lerpwl, lle bu raddio gyda MBChB. Wedi cyfnod o weithio mewn sawl man, megis Ysbyty Maudsley Llundain, ac wedi ennill sawl gradd, MD, DPM, MRCPsych a FRCPsych, yn 1964 dychwelodd i Gymru, gan ddechrau ar ei swydd fel Seiciatrydd Ymgynghorol yn gyfrifol am Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Bu yno tan i’r Ysbyty gau yn 1995, gan oruchwylio newidiadau mawr yng ngofal iechyd meddwl.

Yn ystod ei gyfnod yn Ninbych, ymddiddorodd Dafydd Alun mewn afiechydon caethdra alcohol a chyffuriau. O ganlyniad, agorodd sawl uned arbennigol o fewn y gwasanaeth iechyd, ac yn 1976 roedd yn un o sefydlwyr Uned Hafan Wen yn Wrecsam yn ogystal â’r mudiad CAIS, mudiad y bu’n gadeirydd arno am flynyddoedd lawer wedyn.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, datblygodd ddiddordeb yn y cyflwr PTSD o fewn milwyr a ddychwelodd o Ryfel y Gwlff, ac yn 1992 fe sefydlodd undeb pwrpasol i’w trin, Uned Tŷ Gwyn yn Llandudno. Daeth yn arbennigwr ar y cyflwr, ac o ganlyniad, treuliodd gyfnod yn gweithio i drin milwyr ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn. Trwy gydol ei waith yn y maes, credir iddo drin oddeutu 2,000 o gyn filwyr a oedd yn dioddef o’r cyflwr.

Er iddo ymddeol o’r gwasanaeth iechyd, parhaodd i weithio fel seiciatrydd tan yn ddiweddar iawn, ac roedd wedi ail-ddilysu â’r GMC llynedd – a digon tebyg ei fod yn un o’r meddygon hynaf ar y gofrestr feddygol a oedd yn dal i weithio.

Roedd yn aelod blaenllaw o’r Gymdeithas Feddygol, ac yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf yng Ngwesty Plas Maenan, Llanrwst yn 1975 (ac mae lluniau ohono ef a’i blant y tu allan i’r gwesty i’w canfod ar adran hanes y wefan hon). Ymhyfrydodd yn mynychu’r cynadleddau, gan fynychu mor ddiweddar â 2018 yng Ngwesty’r St Georges yn Llandudno. Bu’n ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholaeth Sir Ddinbych yn etholiad 1959 ac 1964, ac yn ddiweddarach, cafodd ei Urddo i’r Wisg Wen er anrhydedd gan Orsedd Beirdd yr Eisteddfod.

Yn ei amser hamdden, roedd yn hoff o hedfan awyrennau, ac roedd weithiau yn hedfan i gynnal ei glinigau! Cafodd sawl damwain awyren, ond llwyddodd i ddianc yn ddianaf bob tro!

Bydd colled enbyd ar ei ôl, gan ei gleifion, a ganddo ninnau yn y Gymdeithas Feddygol.

Hunodd yn dawel ar ôl cyfnod byr o waeledd, yng nghwmni ei blant yn Rhianfa, Talwrn ar Fai’r 6ed. Mae’n gadael 5 o blant, Dwynwen, Dyfrig, Deiniol, Derfel a Non yn ogystal â 7 o wyrion.

 

Rhannwch hwn..

Teyrnged i Dr Tom Davies

Diolch i Donald Williams am adael i ni rannu ei deyrnged am Tom Davies.

Gellir ei ddarllen yma.

Rhannwch hwn..

Colli un o sefydlwyr y gymdeithas

Gyda mawr dristwch y cyhoeddwn am farwolaeth Dr Tom Davies, un o sefydlwyr y Gymdeithas Feddygol. Er nad yr oeddem wedi ei weld ers rhai blynyddoedd yn y Gynhadledd roeddem yn cadw mewn cysylltiad ac roedd yn parhau i fod yn aelod uchel ei barch.

Bydd ei angladd ar Chwefror 12ed am 11:00 yng Nghapel y Wenallt, Amlosgfa Thornhill, Caerdydd.

Cydymdeimlwn gyda’r teulu, ac rydym yn meddwl amdanynt.

Rhannwch hwn..

Archebu ir Gynhadledd ar gael!

Rydym yn falch o gyhoeddi y gallwch bellach archebu lle yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Feddygol.

Cliciwch yma am fwy o fanylion, ac yma i fynd yn syth i archebu.

Os y cyfeiriwch gyfaill sy’n ymuno’n llawn (fel meddyg) fe gewch docyn werth £15 i’w ddefnyddio tuag at gôst mynychu’r gynhadledd! Cliciwch yma i gyfeirio rhywun.

Yn ogystal mae cyfle i ennill tocyn llyfr werth £25 wrth ‘hoffi’ y gynhadledd ar Facebook!

Rhannwch hwn..

Trefn Cynhadledd 2018 wedi ei gyhoeddi

Rydym yn falch o gyhoeddi bod trefn Cynhadledd Llandudno 2018 ar gael. Bydd dewis eang o bynciau drwy gydol y ddau ddiwrnod wedi anelu at feddygon o bob maes. Yn ogystal bydd cyfle i fyfyrwyr a meddygon iau gyflwyno posteri a chyflwyniadau.

Cliciwch yma i’w ddarllen.

Hydref 12-14, Gwesty St George Llandudno

Rhannwch hwn..

Sesiwn Meddygon Teulu Ysgolion Gogledd Cymru 2018

Wedi llwyddiant gwych y llynedd mae Dr Dylan Parry eto eleni yn trefnu sesiwn i godi ymwybyddiaeth am yrfa fel meddyg teulu. Wedi ei anelu at ddisgyblion ysgol, y nôd yw i annog disgyblion i gysidro gyrfa yn y maes.

Bydd cyflwyniadau am y cyfleon sydd ar gael fel meddyg teulu, yn ogystal a sesiwn yn trafod dilemas moesol y gallai meddyg teulu ddod ar ei draws a phwysigrwydd cyfathrebu safonol.

Yn ogystal bydd cyflwyniadau am sud i wneud ymgais lwyddianus i ysgol feddygol. Fe drafodir y ddatganiad bersonol, y cyfweliadau, a sud y gall sgiliau sydd eisioes gan ddisgyblion drosglwyddo i yrfa feddygol. I gael blas ar fywyd fel myfyriwr feddygol, bydd sgwrs gan fyfyrwyr sydd wrthi’n astudio ar y funud.

I gofrestru, ebostiwch gpschoolssession@gmail.com

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Venue Cymru, Llandudno

Medi yr 20fed 2018

09:00-14:45

 

Rhannwch hwn..

Erthygl am ddyfodol meddygon teulu

Wythnos yma cyhoeddwyd erthygl gan Gwion Jones am ei swydd fel meddyg teulu sy’n gweithio i fwrdd iechyd, ac os y gallai swyddi tebyg fod o gymorth gyda’r argyfwng meddygon teulu yng Nghymru.

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44644487

Rhannwch hwn..

Steil gwerth chweil

Llongyfarchiadau i’n ysgrifenydd Catrin Elis Williams am gael erthygl wedi ysgrifennu amdani yn adran Steil y gylchgrawn Golwg!

Rhannwch hwn..

Gohebiaeth gan Juncker yn y Gymraeg

Ysgrifennodd Gwilym Sion lythyr at Jean-Claude Juncker, llywydd comisiwn Ewrop ynghylch a Brexit. Derbyniodd cyd-drefnwr cynhadledd 2018 ateb yn Gymraeg – cliciwch yma i ddarllen am yr hanes yn Golwg360.

Rhannwch hwn..

Rhannwch hwn..