Hysbysebu swyddi
Rydym yn cynnig gwasanaeth hysbysebu swyddi, lle gallwn rannu eich hysbyseb ar ein tudalen Facebook, Trydar, a’n gwefan.
Mae cannoedd yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ac os yw cyhoeddiadau’n cael eu rhannu gallant gyrraedd miloedd. Gall eich hysbyseb felly gyrraedd miloedd o feddygol neu weithwyr meddygol drwy Gymru, allai unai bod gyda diddordeb eu hunain neu ei rannu gyda ffrindiau a chyd-weithwyr. Mae canran uchel o’n dilynwyr wedi ymuno a’r gymdeithas fell myfyrwyr, ac ymhellach wedi gorffen eu hyfforddiant neu’n agos i wneud. Maent felly yn grwp delfrydol i dargedu hysbysebion tuag atynt.
Am ffî o £100 byddwn yn ei rannu unwaith ar Facebook a Trydar, ac ar y dudalen swyddi ar ein gwefan am un mis.
Rhaid i’r hysbyseb fod yn uniaith Gymraeg, a gallwn gynnig cymorth os oes angen cyfieuthu.
Os hoffwch drefnu hysbyseb neu cael mwy o wybodaeth, ebostiwch gwefan@ygymdeithasfeddygol.cymru.