Hanes

Diolch yn fawr iawn i’r diweddar Dr Tom Davies am grynhoi’r hanes yma, ac am y caniatad i’w gyhoeddi.

Mewn cyfarfod ar gyfer meddygon teulu a seiciatryddion a gynhaliwyd yn yr Ysbyty Athrofaol, Caerdydd, yn Nhachwedd 1974, cynhaliwyd un grŵp trafod trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi i Don Williams a minnau drafod y peth, ar 20 Ebrill 1975, ysgrifennais at nifer o feddygon yn eu gwahodd i gwrdd â ni yn Ysbyty Cefn Coed, Abertawe, lle’r oedd y ddau ohonom yn gweithio. Petaem yn derbyn digon o gefnogaeth, y bwriad oedd ceisio sefydlu cymdeithas a fyddai’n rhoi cyfle i feddygon a myfyrwyr meddygol drafod pynciau clinigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai’n rhaid ethol pwyllgor llywio a swyddogion, gan drefnu cynhadledd cyn gynted ag y gallem. Ni chawsom ateb oddi wrth bob un a wahoddwyd, ond cynhaliwyd y cyfarfod ar brynhawn Sadwrn, Mehefin 14 1975.

Enwau'r sawl a oedd yno
Cedric Davies (Caerdydd), Huw Edwards (Caerfyrddin), Geraint Lewis (myfyriwr, Caerdydd)*, Harri Pritchard Jones (Caerdydd), Tudor Rees (Abertawe), Alun Phillips (Hensol), Don Williams (Abertawe), Tom Davies (Abertawe). Derbyniwyd ymddiheuriadau a llythyrau yn cefnogi’r symudiad oddi wrth Arthur Boyns, Carl Clowes, Eurig Davies, Lloyd Davies, Rosina Davies, D. E. Meredith a John Owen. [*Erbyn hyn, mae Geraint yn byw yng Nghanada, lle y mae’n gweithio fel anesthetegydd. Gweler ei erthygl yn Cennad (1988).]

 

Yn y cyfarfod, penderfynwyd y dylid gwahodd Dr Emyr Wyn Jones i fod yn lywydd, a Dr Hugh Herbert, Aberaeron, Mr O. V. Jones, Bangor, a Miss Catrin Williams, Clwyd, yn is-lywyddion (yn ddiweddarach, ychwanegwyd enw’r Athro Richard Edwards, Llundain). Etholwyd Don Williams yn gadeirydd a Tom Davies yn ysgrifennydd. Y tâl aelodaeth fyddai tair punt y flwyddyn. Yn ddiweddarach, wrth i rif yr aelodaeth gynyddu, penderfynwyd y dylid creu swydd trysorydd, a derbyniodd Eurig Davies y gwaith hwnnw.

Awgrymais y dylem gynnal cyfarfod anffurfiol yng ngogledd Cymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn ceisio lledaenu’r neges. Derbyniwyd hynny, ac fe ddaeth nifer sylweddol atom i Westy Dolbadarn. Llanberis. ar brynhawn Mercher, 6 Awst 1975. (Erbyn hynny, yr oeddwn wedi derbyn enwau mwy o feddygon Cymraeg, a bu modd cysylltu â hwy.)

Enwau'r sawl a oedd yno

Arthur Boyns, Carl Iwan Clowes, Cedric Davies, Tom Davies, Rosina Davies, Huw Edwards, Alwyn Griffith, Gwilym Griffith, D. Ll. Griffiths, Dan Rowland Hughes, O. V. Jones, T. E. Maxwell, Owen Owen, T. Emlyn Owen, Ann Rhys, Glyn Rhys a Raymond S. Williams.

Cynhaliwyd y gynhadledd gyntaf yng Ngwesty Plas Maenan, Llanrwst, ym mis Tachwedd 1975.

Enwau’r 35 a oedd yno

Emyr Wyn Jones; Don Williams, Abertawe; Huw Bevan Jones, Caerfyrddin; Fraser Williams, Manceinion; Tom Davies, Abertawe; Geraint Lewis (myfyriwr), Caerdydd; Alun Phillips, Ysbyty Hensol; Huw Edwards, Caerfyrddin; Tudor Rees, Caerfyrddin; William Hughes Roberts. Ysbyty Pen-y-fai, Pen-y-bont ar Ogwr; Dewi Evans, Ysbyty Alder Hey; Alwyn Miles, Waun-fawr;   G. Jones, Patholegydd, Bangor; Gwilym Wynne Griffith, Biwmaris; J H Thomas, Pen-y-bont ar Ogwr; John Cule, Capel Dewi; Catrin Williams, Clwyd; Richard Rees, Caerfyrddin; Eurfyl Jones, Caerfyrddin; David Meredith, Rhyl; Ian Jones, Abertawe; Dafydd Huws, Caerdydd; O. V. Jones, Porthaethwy; Robin Davies, Bangor; Dafydd Alun Jones, Dinbych; Rosina Davies, Blaendulais; Arthur Kenrick, Llanrwst; John Evans a Margaret Evans, Caerfyrddin.

Daeth yr anhawster cyntaf o gyfeiriad y Deon Addysg Uwchradd Feddygol yng Nghaerdydd. Gwrthododd ef fy nghais am gael cydnabod fod darlithoedd ein cynadleddau yn rhan o gyfundrefn addysg uwchradd feddygol yng Nghymru. Awgrymodd Rosina y dylwn drafod y peth gyda Dr Emyr Wyn. Rhai wythnosau wedi i mi wneud hynny, cefais alwad ffôn ganddo yn dweud ei fod wedi siarad â’r Deon, ac awgrymodd fy mod yn gosod cais arall. Ni chafwyd unrhyw broblemau wedyn. Dyna gyfraniad mawr cyntaf Dr Emyr Wyn i waith y Gymdeithas.

Cododd yr ail broblem a wynebwyd wrth i’r Awdurdod Treth Incwm wrthod cais am i’n haelodau gael ad-daliad treth ar y tâl aelodaeth, ac am gael ein rhyddhau o dalu treth gorfforaeth. Aeth Don a minnau i weld un o swyddogion yr Awdurdod hwnnw, ond ni chawsom rhyw lawer o lwyddiant. Penderfynwyd y byddai’n rhaid i ni dalu’r dreth gorfforaeth o £42. Apeliwyd yn erbyn y dyfarniad, ac fe’n rhydhhawyd, ac enillwyd yr hawl i dderbyn ad-daliad treth. Bu’n rhaid danfon ein taflen ariannol iddynt am rai blynyddoedd wedi hynny, ond ar wahân i hynny, ni chawsom unrhyw drafferth.

Cennad

Yng nghynhadledd yr hydref 1979 yng Nghastell Newydd Emlyn, penderfynwyd sefydlu cylchgrawn. Dr Emyr Wyn Jones awgrymodd yr enw, Cennad. Bwriadwyd cyhoeddi’r darlithoedd a gafwyd yn ein cynadleddau, ond gobeithiwyd y gellid derbyn peth gwaith gwreiddiol yn ogystal. Etholwyd Ieuan Parri yn olygydd.

Ymddangosodd y rhifyn cyntaf a oedd yn cynnwys cyflwyniad gan y Llywydd a phum erthygl, yng Ngwanwyn 1980. Ar y pryd, yr oedd y cwmniau cyffuriau yn barotach i gynnwys hysbysebion. Bu’r cylchgrawn yn ymddangos ddwywaith y flwyddyn am rai blynyddoedd, ond pan ddechreuodd y Dr Edward Davies ar y gwaith, penderfyInwyd cyhoeddi yn flynyddol, ac fe ychwanegodd hyn yn sylweddol at faint y cyfrolau. Wedi i gyfnod Edward Davies ddod i ben, derbyniodd Tom Davies y swydd, ac ar ôl hynny, cynigiodd Ieuan Parri wneud y gwaith. Roedd hi’n destum tristwch i lawer ohonom

Erbyn hyn, mae’r holl gynnwys ar wahân i un erthygl* i’w gael ar wefan Cylchgronau Cymru’r Llyfrgell Genedlaethol. (*Gwrthodwyd cael hawl i gynwys yr erthygl honno am fod rhai newidiadau wedi digwydd yn y fersiwn a argraffwyd heb ganiatâd yr awdur.)

Fe gyhoeddwyd cylchlythyr o bryd i’w gilydd dros y blynyddoedd. Erbyn hynny, nid oedd gan y Gymdeithas unrhyw ffordd arall o gynnig gwybodaeth i’r aelodau nad oedd yn gallu mynychu’r cynadleddau. Felly, penderfynwyd bod yn rhaid cael cylchlythyr a fyddai’n ymddangos yn gyson ddwywaith y flwyddyn. Dechreuwyd ar hyn yng Ngorffennaf 1983, gyda Gerry Coles a Tom Davies yn olygyddion. Ar ôl i’w tymor hwy orffen, derbyniodd Ieuan Parri’r swydd.

Hyfforddi myfyrwyr

Yn 1985, gwnaethom gais i’r ysgol feddygol yng Nghaerdydd yn gofyn am yr hawl i fyfyrwyr gael eu hyfforddi myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod eu cyfnod dewisol. Byddai’r Gymdeithas yn paratoi rhestr o enwau’r hyfforddwyr; bu Dr Gerry Coles yn gweithio i hyrwyddo’r cynllun. (Rwy’n cofio ffonio’r llawfeddyg gweithgar hwwnw, Owen Owen, Bangor, i ofyn a fyddai’n fodlon cymryd rhan. Ei ateb nodweddiadol oedd, `yn yr ysbyty hwn, rydym ni’n hogi’r cyllyll trwy gyfrwng y Gymraeg.’)

Wedi i’r Athro Geraint Roberts dderbyn swydd y deon yng Nghaerdydd, gofynnodd i Rosina a minnau a fyddem yn fodlon cynnig cyfres o seminarau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe wnaethom hynny am gyfnod. Nid oes gennyf fanylion ychwanegol am y cynllun hwnnw.

Ysgolion undydd: myfyrwyr Lefel A

Am rai blynyddoedd, buom yn trefnu cyfres o ysgolion undydd blynyddol ar gyfer myfyrwyr lefel A a oedd yn bwriadu cynnig am leoedd mewn ysgolion meddygol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn Adran Addysg Uwchradd Ysbyty Treforys. Cawsom ymateb rhagorol wedi i ni gysylltu â’r ysgolion uwchradd Cymraeg trwy Gymru, gan ddenu yn agos at gant o bobl ifainc sawl tro, gan gynnwys rhai a ddeuai o sir Fôn a lleoedd eraill yng ngogledd Cymru. Mae’r unig fanylion sydd gennyf yn ymwneud â’r gynhadledd gyntaf.

Y darlithwyr

Yr Athro Julian Hopkin, Pennaeth ac Athro Meddygaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: Clefydau, Meddygaeth ac Ymchwil.

Mr John Roberts Harry, Offthalmolegydd, Llanelli: dangos fideo a thrafod triniaeth codi pilen y llygad.

Roedd yr Athro D. P. Davies, Adran Iechyd Plant, Caerdydd, wedi bwriadu dod i sôn am yr Ysgol Feddygol, gan gynnig awgrymiadau am sut i wneud cais am le a.y.b., ond bu’n rhaid iddo ddanfon rhywun arall nad yw ei enw gennyf yn ei le.

Dr Geraint Morris, Pediatregydd, Abertawe: darlith am waith ei adran.

Dr Ruth Williams, Caerfyrddin: yn trafod ei gwaith fel meddyg teulu.

Diwrnod llwyddiannus dros ben! Gofynnwyd i’r myfyrwyr werthuso’r cwrs ar ddiwedd y dydd, ac fe gafwyd ymateb rhagorol. Roedd hynny yr un mor wir am weddill y gyfres.

Llyfryn Termau

Cyn ffurfio’r Gymdeithas, roeddwn wedi cael ar ddeall fod y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones wedi bod yn ymwneud â chyhoeddi’r llyfrau termau technegol mewn meysydd eraill a oedd wedi ymddangos eisoes. Cefais ateb ganddo (4 Rhagfyr 1974) yn dweud nad oedd a wnelo ef â’r peth, ac mai cyfrifoldeb Pwyllgor Iaith a Llȇn Bwrdd Gwybodaethau Celtaidd y Brifysgol oedd hynny. Addawodd Mr Gareth Evans, Cofrestrydd Cynorthwyol y Brifysgol, y byddai’n codi’r pwnc yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Termau Technegol y Bwrdd. Ar 18 Ebrill 1975, ysgrifennodd ef i ddweud fod (y diweddar) Athro T. J. Morgan yn gofyn a allem baratoi rhestr Saesneg o dermau, ac fe fyddai’r `Brifysgol yn apwyntio personau addas a fydd yn fodlon cwrdd â chwi i’w throsi i’r Gymraeg.’ Aelodau’r pwyllgor a benodwyd gan y Brifysgol oedd Yr Athro Ceri Lewis (cadeirydd), yr Athro Brinley Roberts, Dr Harri Pritchard Jones, Mr Gareth Evans, a Dr Elwyn Hughes (ysgrifennydd).

Ar 27 Hydref 1978, cefais lythyr gan Mr Gareth Evans yn diolch am roi enwau Ieuan Parri (Penrhyndeudraeth) a John Owen (Porthcawl) fel aelodau o’r Gymdeithas a fyddai’n fodlon cwrdd â phwyllgor y Brifysgol yn ddiweddarach. Gofynnodd John am gael ei ryddhau o’r gwaith hwn, ac felly, Ieuan a minnau a fu’n cwrdd â’r pwyllgor wrth i’w gwaith ddirwyn i ben. Ar 22 Medi 1982, cefais lythyr gan Mr Evans yn tynnu sylw at ddatganiad a wnaed yn Cennad (Gwanwyn 1982) yn dweud y byddid yn cyhoeddi rhestr o dermau yno cyn y byddai’r llyfryn termau yn ymddangos: `mae hyn wedi peri cryn ofid … gofynnwn i chwi yn garedig i ail-ystyried.’ Gan na wyddwn i ddim am hyn, nid oedd modd i mi gynnig ateb. Ymddangosodd y llyfryn Termau Meddygol yn 1986. Prifysgol Cymru biau’r hawlfraint.

O ran cyfieithu eu deunydd i’r Gymraeg, ymateb cymysg a ddaeth oddi wrth y cwmnïau cyffuriau. Er hynny, cawsom peth llwyddiant gan rai ohonynt. Y broblem fawr a gefais oedd ceisio’u perswadio i barhau â’r gwaith.

Darlithoedd Eisteddfodol

Am rai blynyddoedd, bu’r Gymdeithas yn noddi darlith flynyddol gyhoeddus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Er bod y darlithoedd o’r safon uchaf, ni lwyddwyd i ddenu cynulleidfaoedd sylweddol, ac wedi peth amser, penderfynwyd cynnal y cyfarfodydd mewn gwesty cyfagos. Unwaith eto, ni fu hyn yn llwyddiant mawr, a daethpwyd â’r peth i ben ar ôl rhai blynyddoedd.

Cystadleuaeth Cymorth Cyntaf

Wedi i’r Gymdeithas brotestio yn erbyn yr arferiad o gynnal cystadlaethau cymorth cyntaf yr Eisteddfod yn Saesneg, cytunwyd yn 1980 (llythyr o/w Emyr Jenkins, 3 Tachwedd 1980) i sicrhau mai trwy gyfrwng y Gymraeg y digwyddai hynny. Ysgrfennwyd at sawl papur (4 Mawrth 1981) yn gwahodd tîmau i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Ni fu cystadlu yn y flwydddyn ganlynol (1982). Erbyn hynny, y gred gyffredinol oedd nad oedd yn addas cynnal digwyddiadau o’r fath yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gohebiaeth

26 Hydref 1980: At Syr Henry Yellowlees, Prif Swyddog Meddygol, Adran Iechyd, Llundain: Dylid cael yr hawl i gynnal triniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob achlusur posibl. Cydnabod bod hyn yn digwydd yn barod yn aml.

Atebwyd gan Dr Gareth Crompton, Prif Swyddog Meddygol Y Swyddfa Gymreig: 19 Ionawr 1980: Ym mis Mawrth 197?, danfonwyd cylchlythyr (WWHSC (IS) 117) ar draws y Gwasanaeth yng Nghymru yn pwysleisio ei bod hi o fudd i gleifion allu defnyddio’u mamiaith wrth iddynt dderbyn triniaieth. Disgwylir y bydd Pwyllgorau Meddygon Teulu yn cydnabod ei bod hi’n werth ystyried y pwysigrwydd o apwyntio meddygon Cymraeg eu hiaith mewn ardaloedd Cymraeg. Rhaid i’r Awdurdodau Iechyd benderfynu ym mhob achos pa mor bwysig yw hi i apwyntio meddygon Cymraeg eu hiaith. Roedd yn sicr fod yr Awdurdodau Iechyd Cymreig yn ymwybodol o anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith.

11 Tachwedd, 1981: llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol (Nicholas Edwards) yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynigiwyd: `Yn wyneb y problemau enfawr sydd yn codi oherwydd y cam-ddefnydd a wneir o alcohol, yr ydym yn galw ar y llywodraeth i gymryd camau radical i reoli gwerthiant alcohol.’

13 Ionawr, 1982: ateb i lythyr a ddanfonwyd at Gyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol (Emyr Jenkins) yn dweud nad oeddent yn bwriadu newid y drefn a oedd yn bod o ran gwerthu alcohol ar y maes.

Cynigiadau a dderbyniwyd yn rhai o’r cyfarfodydd blynyddol

1985: ein bod yn codi’r tâl aelodaeth i £10. Sawl aelod yn credu na ddylai’r aelodau a oedd wedi ymddeol dalu’n llawn.

1986: awgrym ein bod yn llunio bathodyn i’r llywydd. Eraill yn meddwl ei fod yn wastraff arian, gan na fyddai’n cael ei wisgo ond am rai oriau bob blwyddyn. Thema’r bathodyn = chwedl Meddygon Myddfai a merch Llyn y Fan Fach, gydag elfen o lawysgrif Efengylau St Chad. Gwnaed y bathodyn gan Kathleen Makinson, Dinbych. Aur Cymreig.

1986: casglwyd yn agos at £1,500 i gefnogi’r Urdd.

1987: cefnogi’r ymgais i gyflwyno Deddf Iaith newydd.

1988: ymgyrch offer meddygol i’w ddandon i Lesotho. Casglwyd mwy na 50 darn o offer. Uchel Gomisiynydd Lesotho yng nghinio’r Gymdeithas yng Ngwanwyn 1988.

Cyfanswm rhoddion apȇl Lesotho: £2,463. Treuliau: £2,680.

Rhannwch hwn..