yn agored i fyfyrwyr meddygol ac i feddygon iau ar gyfer
Stondin y Gymdeithas Feddygol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, Awst 2019 a Chynhadledd Blynyddol y Gymdeithas, Gwesty’r Cawdor, Llandeilo, 11-13 Hydref 2019.
CYFLWYNIADAU LLAFAR a PHOSTER
Gwahoddir crynodeb o lai na 150 o eiriau erbyn 1af o Orffennaf 2019
yn un o’r categoriau canlynol:
Achos clinigol diddorol / Prosiect ymchwil / Cyfnod dewisol clinigol.
Dewisir y 3 chynnig gorau erbyn 8fed o Orffennaf 2019 i roi cyflwyniad llafar o 10 munud yn y Gynhadledd.
Gwahoddir y cyflwyniadau safonol i gyflwyno eu gwaith fel poster i’w arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn y Gynhadledd Blynyddol (maint A1)
Bydd gwobrau fel a ganlyn yn ôl teilyngdod:
£300 tuag at gostau y cyfnod dewisiol clinigol gorau
£200 cyflwyniad llafar gorau o blith meddygon iau
£200 cyflwyniad llafar gorau o blith myfyrwyr meddygol
£100 cyflwyniad poster gorau o blith meddygon iau
£100 cyflwyniad poster gorau o blith myfyrwyr meddygol
Danfonwch eich cynigion, gyda’ch manylion:
enw /myfyriwr /meddyg iau wedi ei nodi’n glir erbyn
1af o Orffennaf 2019
i Drefnydd Cynhadledd y De
ceril.rhys-dillon@wales.nhs.uk