Eisteddfod Tregaron 2022

Gorffennaf 30ain – Awst 6ed

Pob blwyddyn byddwn yn cynnal stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y bwriad yw i ymgysylltu gyda’r cyhoedd er mwyn gwella ymwybyddiaeth o ddefnydd y Gymraeg mewn gofal iechyd a meddygaeth.

Mae’n gyfle hefyd i siarad gyda disgyblion ysgol ynghylch â meddygaeth fel gyrfa, eu hannog i’w gysidro, a rhoi cyngor am sud i lwyddo mewn cais i fynychu ysgol feddygol. Pob blwyddyn rydym yn denu mwy o fyddygon i ymuno â’r Gymdeithas.

Byddwn hefyd yn cynnal cystadleuthau i blant, ac yn defnyddio’r cyfle i siarad gyda’r cyhoedd er mwyn gwneud ymchwil am ddefnydd y Gymraeg mewn meddygaeth.

Mae llwyddiant y stondin yn ddibynnol ar wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n fodlon rhoi eu hamser i’r achos.

Pam gwirfoddoli?

  • Gwyliau astudio – mae cyflogwyr fel arfer yn bleidiol ac yn fodlon ei gysidro fel gweithgaredd addysgiadol
  • CPD – bydd eich amser yn cael ei adnabod gan Goleg Brenhinol y Meddygon
  • Mynediad am ddim i’r Eisteddfod!
  • Hwyl – bob blwyddyn ceir amser difyr a hwyl ar y maes

Diolch i’r canlynol am wirfoddoli eu hamser i’n helpu yn Eisteddfod eleni!

DiwrnodSadwrn 30/7/22Sul 31/7/22Llun 1/8/22Mawrth 2/8/22Mercher 3/8/22Iau 4/8/22Gwener 5/8/22Sadwrn 6/8/22
Cwt pren bore
10-2
Angharad GwynAngharad DaviesMeurig JonesMeurig JonesAngharad DaviesAngharad Gwyn
Cwt pren pnawn
1-5
Rowena Mathew? Rowena Mathew
Plant bore
10-2
Plant pnawn
1-5
Y sfferen
11-12 yb
Angharad G Emyr
Gyrfa Mewn Meddygaeth
CerilAwen GethinEmyr ac Alun
Y sfferen
Dr Doctor
4-5yp
CydlynnuEmyrEmyrEmyr
Rhannwch hwn..