Awst 1af i’r 8ed
Pob blwyddyn byddwn yn cynnal stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y bwriad yw i ymgysylltu gyda’r cyhoedd er mwyn gwella ymwybyddiaeth o ddefnydd y Gymraeg mewn gofal iechyd a meddygaeth.
Mae’n gyfle hefyd i siarad gyda disgyblion ysgol ynghylch â meddygaeth fel gyrfa, eu hannog i’w gysidro, a rhoi cyngor am sud i lwyddo mewn cais i fynychu ysgol feddygol. Pob blwyddyn rydym yn denu mwy o fyddygon i ymuno â’r Gymdeithas.
Byddwn hefyd yn cynnal cystadleuthau i blant, ac yn defnyddio’r cyfle i siarad gyda’r cyhoedd er mwyn gwneud ymchwil am ddefnydd y Gymraeg mewn meddygaeth.
Mae llwyddiant y stondin yn ddibynnol ar wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n fodlon rhoi eu hamser i’r achos.
I gysylltu gyda trefnydd yr Eisteddfod eleni, gyrrwch ebost i;
eisteddfod@ygymdeithasfeddygol.cymru
Pam gwirfoddoli?
- Gwyliau astudio – mae cyflogwyr fel arfer yn bleidiol ac yn fodlon ei gysidro fel gweithgaredd addysgiadol
- CPD – bydd eich amser yn cael ei adnabod gan Goleg Brenhinol y Meddygon
- Mynediad am ddim i’r Eisteddfod!
- Hwyl – bob blwyddyn ceir amser difyr a hwyl ar y maes
Diolch i’r canlynol am wirfoddoli eu hamser i’n helpu yn Eisteddfod Llanrwst 2019!
Diwrnod | Trefnydd y Dydd | Bore 10yb - 2yp 2-3 i bob sesiwn | Prynhawn 2yp - 6yp 2-3 i bob sesiwn |
---|---|---|---|
Sadwrn 3/8/18 | Siwan Gwilym | Colin Mumford Elin Ellis Jones | Endaf ap Ieuan Phil White |
Sul 4/8/18 | Emyr Humphreys | Rhys Davies Sioned Enlli | Iwan Williams Carol Thomas |
Llun 5/8/18 | Siwan Gwilym | Elin Pugh Esyllt Llwyd | Angharad Williams Angharad Wyn |
Mawrth 6/8/18 | Emyr Humphreys | Delyth Parry Alaw Prys Magi Clwyd | Hywel Parry-Smith Llinos Roberts |
Mercher 7/8/18 | Ceril Rhys Dillon | Nia Hughes Catrin Elis Williams | Shon Thomas Jennifer Thomas |
Iau 8/8/19 | Ceril Rhys Dillon | Awen Iorwerth Siwan Jones | Miriam Owen Rhian Rhys |
Gwener 9/8/18 | Siwan Gwilym | Gethin Ellis Owain Williams Lowri James | Gwenlli Jones Elin Crockett Manon Thomas |
Sadwrn 10/8/18 | Ceril- bore Emyr- pnawn | Ann Price | Marc Edwards Gwilym Siôn Pritchard |