Caerdydd 2018

Awst 6ed-11ed 2018

Pob blwyddyn byddwn yn cynnal stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y bwriad yw i ymgysylltu gyda’r cyhoedd er mwyn gwella ymwybyddiaeth o ddefnydd y Gymraeg mewn gofal iechyd a meddygaeth.

Mae’n gyfle hefyd i siarad gyda disgyblion ysgol ynghylch â meddygaeth fel gyrfa, eu hannog i’w gysidro, a rhoi cyngor am sud i lwyddo mewn cais i fynychu ysgol feddygol. Pob blwyddyn rydym yn denu mwy o fyddygon i ymuno â’r Gymdeithas.

Byddwn hefyd yn cynnal cystadleuthau i blant, ac yn defnyddio’r cyfle i siarad gyda’r cyhoedd er mwyn gwneud ymchwil am ddefnydd y Gymraeg mewn meddygaeth.

Mae llwyddiant y stondin yn ddibynnol ar wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n fodlon rhoi eu hamser i’r achos. Byddwn yn cyhoeddi ffurflen wirfoddoli ar y dudalen yma yn agosach i amser Eisteddfod Llanrwst 2019, 3-10ed Awst.

I gysylltu gyda trefnydd yr Eisteddfod eleni, gyrrwch ebost i;
eisteddfod@ygymdeithasfeddygol.cymru

Pam gwirfoddoli?

  • Gwyliau astudio – mae cyflogwyr fel arfer yn bleidiol ac yn fodlon ei gysidro fel gweithgaredd addysgiadol
  • CPD – bydd eich amser yn cael ei adnabod gan Goleg Brenhinol y Meddygon
  • Mynediad am ddim i’r Eisteddfod!
  • Hwyl – bob blwyddyn ceir amser difyr a hwyl ar y maes

 

 

Rhannwch hwn..