Rydym yn hynod falch o gyhoeddi ei fod bellach yn bosib i archebu llefydd i gynhadledd eleni yng Ngwesty’r George, Llandudno ar Hydref 1af-2ail. Gellir hefyd archebu tocynnau i’r wledd ar y Nos Sadwrn, yn ogystal a chinio ar y Dydd Sul.
Mae gwesty’r George yn garedig iawn wedi neilltuo nifer o stafelloedd ar gyfer y gynhadledd, a gofynnwn i chi gysylltu’n uniongyrchol gyda nhw i fwcio stafell.
Eu rhif ffôn yw 01492 877 544 neu cliciwch yma i fynd i’w gwefan.
Bore Sadwrn
Dr Ffion Williams | Arweinydd C21GC a Myfyrwyr C21GC Prifysgol Bangor a Chaerdydd | Datblygiadau mewn addysg feddygol yng Ngogledd Cymru |
Dr Jo Bertalot | Meddyg Teulu gyda diddordeb arbennig mewn llawfeddygaeth dermatoleg | Defnydd or Dermatosgop |
Dr Derfel Ap Dafydd | Radiolegydd yn y Royal Marsden yn Llundain | Radioleg y Pen ar Gwddf |
Prynhawn Sadwrn
Darlith a gwaith grwp gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)
Cyflwyniadau’r myfyrwyr
Bore Dydd Sul
Dr Mair Parry | Ymgynghorydd Paedeatreg Ysbyty Gwynedd | Plant yn Gwichian (wheezing) |
Dr Cerys Ap Gwilym | Meddyg Teulu gyda diddordeb arbennigol mewn Gastroenteroloeg | Ddatblygiadau mewn triniaeth o afiechyd llidus y perfedd (inflammatory bowel disease) |
Cyfarfod Cyffredinol |