Derbyniwyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Gymdeithas 1984. Adolygwyd 1989.
- Amcan y Gymdeithas fydd i roi cyfle i feddygon a myfyrwyr meddygol i ymwneud â phob agwedd ar Feddygaeth drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
- Bydd aelodaeth cyflawn yn gyfyngedig i feddygon, ac fe fydd myfyrwyr yn aelodau cysylltiol. Bydd gan aelodau cysylltiol yr hawl i fynychu cyfarfodydd ac i annerch yno, ond nid i bleidleisio. [Nid wyf yn credu ein bod wedi dilyn y rheol ryfedd honno erioed: bu gan fyfyrwyr yr un hawliau â phawb arall o’r cychwyn TGD.] O bryd i’w gilydd, gellid ethol aelodau anrhydeddus petaent wedi gwneud cyfraniad arbennig i Feddygaeth neu i’r Gymdeithas. Gallent fynychu’r cyfarfodydd ond ni fyddai ganddynt yr hawl i bleidleidio. [Yr unig un a etholwyd yn aelod anrhydeddus oedd y diweddar Alun Ogwen Jones, cynrychiolydd Beechams yng ngogledd Cymru, am iddo hybu’r syniad o gyfieithu peth o ddeunydd y cwmni hwnnw i’r Gymraeg. Fe roes hynny sbardun i rai cwmnïau eraill i ddilyn.]
Etholir y swyddogion am dair blynedd, ond gellir eu hail-ethol.
Y Pwyllgor Gwaith: y swyddogion ynghyd â thri aelod arall. Rhaid i un ohonynt ymddeol bob blwyddyn. Gellir cyfethol aelodau eraill a ffurfio is-bwyllgorau yn ôl yr angen.
Rhaid cael rhybudd o 28 diwrnod er mwyn rhoi cynnig o ddiffyg hyder gerbron. Rhaid i ddwy ran o dair o’r aelodau sy’n bresennol bleidleisio o blaid.
Bydd gan y swyddogion yr hawl i alw cyfarfod arbennig wedi iddynt roi rhybudd o 28 diwrnod, gan nodi’r materion a fyddai i’w trafod.
Rhaid rhoi rhybudd o 28 diwrnod i’r Ysgrifennydd o gynnig i newid y Cyfansoddiad.