Dr Dafydd Alun Jones 1930-2020

Ar Fai’r 6ed 2020, cyhoeddwyd y newyddion trist am farwolaeth un o aelodau gwreiddiol y Gymdeithas Feddygol, ac un o seiciatryddion amlycaf Cymru yn y ugeinfed ganrif, Dr Dafydd Alun Jones.

Er mai gyda Dinbych a Thalwrn y cysylltir ei enw gan amlaf, brodor o Benmachno oedd Dafydd Alun. Yn llencyn ifanc, mudodd y teulu i Landegai. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, ac yn ôl pob sôn, oherwydd ei lwyddiant ysgubol yng nghanlyniadau ei arholiadau terfynol, cafodd ei gyd-ddisgyblion ddiwrnod annisgwyl o wyliau i ddathlu ei lwyddiant!

Oddi yno, aeth am gyfnod i weithio o fewn y diwydiant atomig yn Windscale (Sellafield bellach), ac yn ystod y cyfnod yma fe benderfynodd newid byd a chychwyn ar yrfa Feddygol. Fe fu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Lerpwl, lle bu raddio gyda MBChB. Wedi cyfnod o weithio mewn sawl man, megis Ysbyty Maudsley Llundain, ac wedi ennill sawl gradd, MD, DPM, MRCPsych a FRCPsych, yn 1964 dychwelodd i Gymru, gan ddechrau ar ei swydd fel Seiciatrydd Ymgynghorol yn gyfrifol am Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Bu yno tan i’r Ysbyty gau yn 1995, gan oruchwylio newidiadau mawr yng ngofal iechyd meddwl.

Yn ystod ei gyfnod yn Ninbych, ymddiddorodd Dafydd Alun mewn afiechydon caethdra alcohol a chyffuriau. O ganlyniad, agorodd sawl uned arbennigol o fewn y gwasanaeth iechyd, ac yn 1976 roedd yn un o sefydlwyr Uned Hafan Wen yn Wrecsam yn ogystal â’r mudiad CAIS, mudiad y bu’n gadeirydd arno am flynyddoedd lawer wedyn.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, datblygodd ddiddordeb yn y cyflwr PTSD o fewn milwyr a ddychwelodd o Ryfel y Gwlff, ac yn 1992 fe sefydlodd undeb pwrpasol i’w trin, Uned Tŷ Gwyn yn Llandudno. Daeth yn arbennigwr ar y cyflwr, ac o ganlyniad, treuliodd gyfnod yn gweithio i drin milwyr ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn. Trwy gydol ei waith yn y maes, credir iddo drin oddeutu 2,000 o gyn filwyr a oedd yn dioddef o’r cyflwr.

Er iddo ymddeol o’r gwasanaeth iechyd, parhaodd i weithio fel seiciatrydd tan yn ddiweddar iawn, ac roedd wedi ail-ddilysu â’r GMC llynedd – a digon tebyg ei fod yn un o’r meddygon hynaf ar y gofrestr feddygol a oedd yn dal i weithio.

Roedd yn aelod blaenllaw o’r Gymdeithas Feddygol, ac yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf yng Ngwesty Plas Maenan, Llanrwst yn 1975 (ac mae lluniau ohono ef a’i blant y tu allan i’r gwesty i’w canfod ar adran hanes y wefan hon). Ymhyfrydodd yn mynychu’r cynadleddau, gan fynychu mor ddiweddar â 2018 yng Ngwesty’r St Georges yn Llandudno. Bu’n ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholaeth Sir Ddinbych yn etholiad 1959 ac 1964, ac yn ddiweddarach, cafodd ei Urddo i’r Wisg Wen er anrhydedd gan Orsedd Beirdd yr Eisteddfod.

Yn ei amser hamdden, roedd yn hoff o hedfan awyrennau, ac roedd weithiau yn hedfan i gynnal ei glinigau! Cafodd sawl damwain awyren, ond llwyddodd i ddianc yn ddianaf bob tro!

Bydd colled enbyd ar ei ôl, gan ei gleifion, a ganddo ninnau yn y Gymdeithas Feddygol.

Hunodd yn dawel ar ôl cyfnod byr o waeledd, yng nghwmni ei blant yn Rhianfa, Talwrn ar Fai’r 6ed. Mae’n gadael 5 o blant, Dwynwen, Dyfrig, Deiniol, Derfel a Non yn ogystal â 7 o wyrion.