
Cefnogi’r hawl i allu derbyn gofal iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyd-weithio gyda unrhyw gorff sy’n gweithio tuag at gynnal hynny

Annog darpariaeth astudiaethau yn y meysydd meddygol drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhoi cyfle i fyfyrwyr gyflwyno gwaith drwy’r Gymraeg

Rhoi cyfleoedd i feddygon a myfyrwyr gwrdd a rhwydweithio mewn digwyddiadau fel ein Cynhadledd Flynyddol a’r Eisteddfod Genedlaethol
Rydym yn gymdeithas groesawus, broffesiynol i feddygon o bob arbenigedd a phob safon hyfforddiant, o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf i’r rhai wedi ymddeol
Sefydlwyd y Gymdeithas yn ôl yn 1975 wedi i Dr Tom Davies a Dr Don Williams o Abertawe sylweddoli fod angen cymdeithas glinigol Gymraeg eu hiaith. Cynhaliwyd cynhadleddau rheolaidd ers hynny, yn ogystal â darlithoedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Er mwyn datblygu safon gwaith clinigol a gwyddonol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg rydym yn cynnal sesiynau cyflwyno posteri yn y Gynhadledd flynyddol, yn ogystal â chynnig gwobrau am gyflwyniadau.
I ymateb i'r her o ddiffyg meddygon drwy Gymru rydym yn ymgysylltu gyda disgyblion er mwyn eu hannog i gysidro meddygaeth fel gyrfa. Mae grwp o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi creu pecyn wedi'i anelu tuag at ddisgyblion blwyddyn deg. Credwn ei fod yn syniad da ymddiddori plant mewn gofal iechyd o oed ifanc, felly yn 2017 bu cynnal cystadleuaeth i greu 'flog feddygol', pan ofynwyd y ddisgyblion greu fideo gyda'r pwrpas o well ymwybyddiaeth o broblemau iechyd.
