Ymaelodi

Rydym wrth ein bôdd eich bod yn meddwl ymuno a’r Gymdeithas!

Pam ymaelodi?

  • Cyfle i gwrdd, cymdeithasu, a rhwydweithio gyda meddygon o led-led Cymru
  • Cefnogi ein gweithgareddau sy’n hybu defnydd y Gymraeg yn y meysydd meddygol a mewn gofal iechyd
  • Gostyngiad ar brîs mynychu y Gynhadledd flynyddol
  • Galluogi i ni groesawu myfyrwyr drwy gyllido gwobrau a chymhorthdaliadau aelodaeth

Dim ond £30 y flwyddyn yw aelodaeth i ôl-raddedigion. Bydd y gôst yma’n talu am ei hun os dewch i’n cynhadledd flynyddol, gan ein bod yn rhoi gostyngiad i aelodau hyd at 35%!

Nid ydym yn codi ar fyfyrwyr i fod yn aelodau, ond byddwch yn arbed £50 ar gôst mynychu’r gynhadledd.

Myfyrwyr Meddygon

Aelodau presennol

Rydym yn trosglwyddo rhai aelodau o ddull talu Fastpay i ddull newydd GoCardless. Dylai’r aelodau mae hyn yn berthnasol iddynt fod wedi derbyn ebost, a gofynnwn yn garedig iddynt glicio’r botwm isod er mwyn cofrestru â GoCardless. Byddwn yn parhau i gymeryd y tal aelodaeth yn flynyddol tua’r un adeg o’r flwyddyn.

Newid i GoCardless

Rhannwch hwn..