Trefn Cynhadledd 2019
Tŷ Horeb, Gwesty’r Cawdor, Llandeilo.
11-13 Hydref 2019
Dydd Gwener 11/10/19
Gweithdy Cardioleg i Feddygon Teulu
Cadeirydd – Dr Gethin Ellis
1yp | Cofrestru, Cinio a Chroeso ym Mhrif Ystafell Gwesty’r Cawdor, a chyfle i ddarllen posteri’r Gynhadledd gan fyfyrwyr a meddygon iau’r Gymdeithas. |
2yp | Tŷ Horeb (tu ôl i Westy’r Cawdor.) Methiant ar y Galon Dr Gethin Ellis, Ymgynghorydd Cardioleg, BIP Cwm Taf Morgannwg. |
2.30yp | Syncope Dr Elin Lloyd, Cofrestrydd Cardioleg, BIP Bae Abertawe. |
3yp | Dychlamiadau’r Galon, Dr Elinor Edwards, Cofrestrydd Cardioleg, BIP Cwm Taf Morgannwg. |
3.30yp | Paned |
4yp | Angina a Chlefyd Coronaidd y Galon, Dr Geraint Jenkins, Ymgynghorydd Cardioleg, BIP Bae Abertawe. |
4.30yp | Cyflwyniadau Achosion Diddorol, Meddygon Meddgyfa Teilo gyda sesiwn holi i’r panel o Gardiolegwyr. |
5.30yp | Diwedd |
6.30yp | Cyfarfod yr hwyr yn ‘Ginhaus’ ar gyfer gweithdy anGINa. |
8yp | Pryd nos yn y Cawdor |
Dydd Sadwrn 12/10/19
Sesiwn y bore – bant a ni!
Cadeirydd – Dr Ceril Rhys-Dillon
8 – 8.45yb | Cofrestru |
9.00yb | Poen fel pwysau plwm ar gnawd a gwaed, Dr Hywel Dafydd, Ymgynghorydd Llawfeddygaeth Blastig, BIP Bae Abertawe. |
9.45yb | Y Paraseits o’n cwmpas, Dr Gethin Thomas, Darlithiwr Swoleg, Prifysgol Abertawe. |
10.30yb | Paned a chyfle i drafod posteri’r Gynhadledd |
11.00yb | Enillwyr Gwobrau’r Gymdeithas, Beirniaid: Dr Bethan Gibson a Dr Huw Davis - cyflwyniad myfyriwr (10 munud) - cyflwyniad ar gyfnod tramor (10 munud) - cyflwyniad gan Dr Huw Davis (10 munud) |
11.45yb | Meddygaeth Ffordd o Fyw, Dr Lisa Thomas, Meddyg Teulu, www.reviveprescribed.com |
12.30yp | Cinio |
Sesiwn y prynhawn – daliwch yn dynn!
Cadeirydd – Dr Gethin Williams
2.00yp | Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, Dr Rhys Thomas, Ymgynghorydd Anaestheteg, BIP Bae Abertawe. |
2.45yp | Damwain Awyr yr M1, yr ochr Feddygol, Dr Colin Mumford, Ymgynghorydd Niwroleg, Caeredin. |
3.30yp | Amser tê |
Sesiwn yr hwyr – gweld y golau neu gweld y gwaith?
4.00yp | Hawl i Holi – Safonau’r Gymraeg ym Myd Iechyd Panel i’w gyhoeddi |
5.00yp | Gwobrwyo’r Posteri Gorau a chyfle i dynnu Llun o’r aelodau. |
5.15yp | Cloi |
7.00yp | Bwyd Blasus, Barddoni a Bwgi |
Dydd Sul 13/10/19
Sesiwn gloi – amser i feddwl
Cadeirydd – Dr Nest Evans
10.00yb | Ffrenolegwr o’r Garnant Dr Gareth Llewelyn, Ymgynghorydd Niwroleg, BIP Aneurin Bevan. |
10.45yb | Meddygaeth Meddylgar Dr Ceri Evans, Ymgynghorydd Seiciatreg, BIP Cwm Taf Morgannwg. |
11.30yb | Paned |
11.45yb | Yr afu’n arafu, Dr Dai Samuel, Ymgynghorydd Gastroberfeddol, BIP Cwm Taf Morgannwg. |
12.30yp | Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. |
1.00yp | Cloi’r Gynhadledd a Chinio Dydd Sul. |
Sesiwn ychwanegol i Ddarpar fyfyrwyr Meddygon
2-3:30yp | Datblygu sgiliau cyfweliad Profiad gwaith Profion ac arholiadau ychwanegol |
Dr Rhian Goodfellow, Cyfarwyddwr Cwrs Meddygaeth is-raddedig C21, Prifysgol Caerdydd Dr Rhys Davies, Ymgynghorydd Niwroleg Canolfan Walton, Lerpwl ac Ysbyty Gwynedd Miss Awen Iorwerth, Uwch Ddarlithydd Clinigol, Coleg Cymraeg Cenedlaethol |