Paratoi am gais

Yma cewch wybodaeth a chyngor am geisio am le i ysgol feddygol

Mae criw o feddygon Prifysgol Caerdydd wedi creu pecyn wedi’i anelu tuag at ddisgyblion blwyddyn 10 ac i fyny.

Mae ychydig o’r wybodaeth yn benodol i brifysgol Caerdydd ond gall fod o ddefnydd mawr wrth geisio i brifysgolion eraill hefyd. Ceir hanesion myfyrwyr, cyngor ar baratoi, a rhestr o adnoddau defnyddiol sydd ar gael.

Cliciwch yma i weld y ddogfen.

Profiad gwaith

Mae dangos bod ganddoch brofiad gwaith yn bwysig gan y bydd yn gyfle i chi ddangos bod ganddoch rinweddau pwysig, ac yn ymroddedig i yrfa mewn meddygaeth. Beth bynnag yw’r profiad sydd ganddoch, gallwch ddewis agweddau ohono sy’n berthnasol i’ch cais, os ydio’n waith gofal iechyd neu beidio.

Er enghraifft gyda swydd mewn caffi gallwch adlewyrchu ar sud oedd rhaid gweithio mewn tîm a chyfarthrebu gyda’r cyhoedd. Gall adlewyrchu ar brofiadau penodol fod yn ddefnyddiol, er enghraifft os ydych wedi cael problem neu her yn y gwaith. Wrth adlewyrchu ar sud y gwnaethoch ymateb gallwch ddangos eich bod yn arloesol ac aeddfed.

Gall fod yn anodd cael profiad gwaith uniongyrchol gyda meddygon, felly peidiwch a phoeni os na lwyddwch – gall profiad mewn meysydd tebyg fod yn union mor ddefnyddiol. Dyma restr lle gallwch drefnu profiad gwaith;

  • Cartref hen bobl neu nyrsio
  • Ysgolion anghenion arbennig
  • Fferyllfa
  • Hospis
  • Ambiwlans St John

Profiad gyda meddyg

Mae llawer o feddygon teulu yn hapus i gynnig profiad gwaith i ddisgyblion â diddordeb yn y maes, ond nid pawb. Felly i gael y cyfle gorau ceisiwch nifer y feddygfeydd. Ffoniwch y feddygfa a gofyn i siarad gyda’r rheolwr, ac os ydyn yn fodlon disgwyliwch iddynt ofyn am lythyr cais a CV. Disgwyliwch hefyd orfod arwyddo cytundeb cyfrinachedd cyn cychwyn unrhyw brofiad gwaith.

Mae nifer o ysbytai yn cynnal rhaglen profiad gwaith, ond eto nid pob un. Mae nifer o ffyrdd o ganfod os ydi eich ysbytu yn un ohonynt;

  • Ffonio yr ysbyty a gofyn i siarad gyda’r adran is-raddedig (undergraduate)
  • Mynd ar wefan eich bwrdd iechyd
  • Trwy’ch swyddog gyrfaoedd

Mae’r cystadleuaeth yn ddwys am unrhyw lefydd, felly byddwch yn drefnus a cysylltu mewn digon o bryd.

Cyrsiau arbennig

Mae cyrsiau ar gael yn benodol ar gyfer disgyblion sydd â diddordeb mewn gyrfa feddygol. Gellir cael darlithoedd, gweithdai, profiad ymarferol, cyngor pellach ar geisio am le, ac ymarfer cyfweld. Maent yn gallu bod yn ddrud, a buasai rhaid teithio iddynt ac efallai aros dros nos os yw’n bell neu fwy na diwrnod. Gallwch hyd yn oed fynd dramor a cael profiadau anghygoel mewn ysbytai gwahanol i’n rhai ni yng Nghymru.

Mae’r Coleg Cymraeg yn rhedeg penwythnos preswyl yng Nglan Llyn, yn ogystal a sesiwn i ddarpar-feddygon fel rhan o’r Gynhadledd flynyddol.

Dyma restr o rai sydd ar gael;

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn dangos eich ymroddiad a charedigrwydd. Gallwch wirfoddoli gyda mudiadau ieunctid, elusennau, cartrefi i’r henoed ayyb.

Graddau

Bydd gradd feddygol yn ddwys yn y pynciau gwyddonol, felly wrth reswm gofynnir cael graddau da yn y pynciau priodol. Oherwydd safon yr astudio bydd ei angen, yn ogystal a’r gystadleuaeth am lefydd, fel arfer bydd angen graddau uchel. Dylswch fynd ar wefan y brifysgolion I ganfod union anghenion eu cyrsiau. Fel arfer bydd angen;

  • Cymysg o Lefelau A gan gynnwys Cemeg a Bioleg
  • Bydd rhai prifysgolion yn derbyn y Bac Cymraeg yn lle un lefel A, ond bod rhaid cael Gemeg a Bioleg yn ogystal fel lefelau A
  • GCSE gyda graddau de mewn Saesneg/Cymraeg yn ogystal a Mathemateg

Os yw eich trydydd lefel A mewn pwnc sydd ddim yn wyddoniaeth peidiwch a phoeni – gall ddangos eich bod yn unigolyn amrywiol, diddorol.

Os nad ydych wedi gwneud y pynciau gwyddonol sydd eu hangen, mae llawer o brifysgolion yn gwneud cwrs meddygaeth chwe mlynedd, gyda’r flwyddyn gyntaf ychwanegol yn rhoi sylfaen ddigonnol i wneud gweddill y cwrs.

Cais UCAS

UCAS yw’r mudiad sy’n gyfrifol am geisiadau i brifysgolion ym Mhrydain. Yno byddwch yn datgan pa gwrs yr hoffwch astudio yn ogystal a pha brifysgolion y byddwch yn ceisio amdanynt. Y rhan bwysicaf or ffurflen yma yw’r datganiad personol. Mae hwn yn gyfle i chi;

  • Egluro pam yr ydych wedi dewis meddygaeth
  • Dweud pam yr ydych yn meddwl y gallwch fod yn feddyg da
  • Sôn am eich profiad gwaith a beth rydych wedi gael ohono
  • Sôn am ddawnau neu hobïau diddorol sydd ganddoch

Cofiwch bydd swyddogion y brifysgol yn darllen miloedd o ddatganiadau personol, felly meddyliwch sut y gallwch sefyll allan a bod yn unigryw. Bydd digonedd o bobl yn dweud eu bod eisiau “gyrfa heriol sy’n fy ngalluogi i helpu pobl a gweithio fel rhan o dîm” – i ddal sylw’r darllenwr rhaid dweud pethau amlwg fel hyn mewn ffyrdd wahanol, sydd yn clymu fewn gyda gweddill y datganiad.

Oes profiad (da neu ddrwg) ganddoch o gyswllt gyda’r gwasanaethau gofal iechyd (personol, teulu, ffrind)? Ydy bod yn brif-ddisgybl wedi dangos yr her o arwain pobl a’u cael i gyd-dynnu? Â gafoch brofiad (da neu ddrwg) tra’n gweithio mewn swydd hâf sydd wedi datblygu rhywbeth ynddoch sy’n berthnasol i yrfa feddygol? Oes hobi neu diddordeb diddorol ganddoch, ac ydych wedi ennill gwobr?

Arholiad mynediad UKCAT

Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion bellach yn gofyn i geiswyr fod wedi eistedd yr arholiad UKCAT (UK Clinical Aptitude Test), â eisteddir mewn canolfan Pearson Vue. Dydych ddim yn llwyddo neu’n methu – yn hytrach defnyddiai’r brifysgol eich sgôr fel rhan o’u hasesiad cyffredinol.

Nid yw’n arholiad academaidd, yn hytrach yn asesu agwedd, rhesymeg, a iaith. Nid oes môdd adolygu iddo, ond mae’n syniad da bod yn gyfarwydd ac ymarfer. Mae digonnedd o gwestiynnau ymarfer i’w cael ar y wefan Medic Portal. Yn y cwestiynnau ceir rhywbeth i’w ddarllen yn gyntaf, e.e. erthygl, adroddiad, neu sefyllfa, yna ceir nifer o gwestiynnau. I ateb bydd rhaid dadansoddi, blaenoriaethu, neu roi barn o’r testyn a ddarllenwyd.

Cyfweliad

Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion bellach yn defnyddio’r dull ‘MMI’ (Multiple Mini Interviews) i gyfweld am le i gwrs meddygaeth. Fel arfer ceir tua deg gorsaf sydd yn parhau am llai na deg munud. Ym mhob un bydd disgwyl i chi unai trafod pwnc neu wneud tasg. Edrychwch ar wefan y brifysgol i ganfod mwy am y trefniadau penodol yn eu MMI nhw, ond rhai pynciau cyffredin yw;

  • Moeseg
  • Eich ymwybyddiaeth o’r maes a newyddion diweddar
  • Eich ymwybyddiaeth o natur y cwrs, a thref y brifysgol
  • Empathi
  • GIG (NHS)

Wrth reswm mae sgiliau cyfathrebu yn cael eu hasesu drwy gydol y cyfweliadau. Cofiwch bod digonedd o ymgeiswyr gyda graddau da, profiad gwaith addas, datganiad personol da ayyb. Mae angen gallu cyfathrebu’n naturiol i fod yn feddyg da, a’r cyfweliadau yma yw’r cyfle i chi ddangos eich bod yn gallu gwneud hyn.

Bydd cyfwelai da yn ateb y cwestiwn yn strwythyrol gyda rhesymeg. Cofiwch bod hyn yn gyfle i chi ddangos eich hun! Meddyliwch sut y gallwch weu ychydig o’ch profiadau neu rhinweddau da i fewn i’ch ateb. Weithiau bydd ymgeiswyr yn ‘sychu’, hynny yw eu bod yn rhedeg allan o bethau i ddweud. Gall fod yn anodd i’r cyfwelwr fod o gymorth yma, gan eu bod wedi cyfyngu yn aml i ail-adrodd beth sydd ar eu taflenni yn unig. Yn y sefyllfa yma eto gallwch sôn am rywbeth oedd yn eich datganiad personol. Os nad ydych yn gallu ateb y cwestiwn a ofynwyd i chi, atebwch y cwestiwn y dymunwch fu wedi ei ofyn!

Pwrpas y dull yw i fod yn wrthrychol am yr ymgeiswyr, ac felly o anghenraid mae rhyddid y cyfwelwr i siarad yn rhydd wedi ei gyfyngu. Yn aml ceir y cyfwelwr ond gofyn cwestiynnau penodol sydd ar eu tafleni, felly gall fod yn anodd llywio’r ymgeisydd yn ôl os ydynt yn mynd i lawr y trywydd anghywir. Felly cofiwch wrando ar y cwestiwn yn astud, a cymerwch ychydig eiliadau i ffurfio ateb yn eich pen cyn siarad os ydych angen.

Mae gan MedicPortal adran wych ar yr MMI, gyda mwy o gyngor am baratoi a chwestiynau ymarfer.

Rhannwch hwn..