Diolch i bawb a ymunodd â ni yn yr Eisteddfod yn Modedern yn mis Awst. Cafwyd dipyn o lwyddiant yn denu hen ffrindiau ac aelodau newydd i’n stondin. Gallwch chi gredu fod 51 o feddygon a myfyrwyr wedi gwirfoddoli eleni! Diolch enfawr i Emyr Humphreys a Ceril Rhys Dillon am eu holl waith yn ystod y paratoi a’r wythnos.
Roedd cystadleuaeth y Flog Feddygol yn lwyddiant gyda 6 flog yn cael eu gwobwryo. Gallwch weld yr holl flogiau ar broffil YouTube Y Gymdeithas Feddygol. Hefyd llenwyd 214 o holiaduron gan y cyhoedd ynglŷn a’u barn am gofrestru marwolaeth yn ddwyieithog a cwblhawyd 121 tystysgrif salwch ffug gan blant gan roi’r cyfle i ni eu hanog i ystyried meddygaeth fel gyrfa. Cafwyd 20 aelod newydd yn yr Eisteddfod hefyd. Edrychwn ymlaen at Eisteddfod Caerdydd yn mis Awst 2018!