Cliciwch yma i fynd i’r dudalen cyflyrau – bydd angen allweddair arnoch i gael atynt.

Croeso i dudalen dr.doctor! Cliciwch yma i archebu

Gêm i blant i roi blas ar fod yn ddoctor go iawn. Bydd angen trafod symptomau a cheisio dyfalu beth yw’r diagnosis 🩺. Cofia bod pob cliw yn cyfri! Bydd modd prynu copi o’r gêm o stondin Y Gymdeithas Feddygol yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron ac yn hwyrach yn y flwyddyn drwy’r dudalen yma. Os am brynu gêm bydd modd enwebu Ysgol Gynradd Gymraeg i gael copi am ddim o’r gêm drwy nawdd caredig Y Gymdeithas Feddygol.
Mae’r adnoddau dysgu ar gael i ti gael dysgu mwy ar y 50 cyflwr.
Crewyd y gêm yn 2019 fel syniad i ddiddanu plant Aelwyd Coed y Cwm yn Ninas Powys gan Ceril Rhys-Dillon. Datblygwyd y syniad ymhellach gyda help ac ymroddiad Ffion Jones ac Elen Owen fel rhan o’i cwrs meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2021. Diolch i ddisgyblion ac athrawon Ysgolion Cynradd Ynyswen, Tonyrefail a Gartholwg am ein helpu i ddewis y cyflyrau gwahanol. Diolch hefyd i Justin Cole o Washdesign yn y Barri am ei sgiliau dylunio.
Gobeithio y bydd gêm dr.doctor yn ysgogi plant Cymru i fod yn feddygon y dyfodol.
Rhannwch hwn..