Cynhadledd 2022 Llandudno Hydref 1af-2ail

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi ei fod bellach yn bosib i archebu llefydd i gynhadledd eleni yng Ngwesty’r George, Llandudno ar Hydref 1af-2ail. Gellir hefyd archebu tocynnau i’r wledd ar y Nos Sadwrn, yn ogystal a chinio ar y Dydd Sul.

Mae gwesty’r George yn garedig iawn wedi neilltuo nifer o stafelloedd ar gyfer y gynhadledd, a gofynnwn i chi gysylltu’n uniongyrchol gyda nhw i fwcio stafell.

Eu rhif ffôn yw 01492 877 544 neu cliciwch yma i fynd i’w gwefan.

Bore Sadwrn

Dr Ffion WilliamsArweinydd C21GC a Myfyrwyr C21GC Prifysgol Bangor a ChaerdyddDatblygiadau mewn addysg feddygol yng Ngogledd Cymru
Dr Jo BertalotMeddyg Teulu gyda diddordeb arbennig mewn llawfeddygaeth dermatolegDefnydd or Dermatosgop
Dr Derfel Ap DafyddRadiolegydd yn y Royal Marsden yn LlundainRadioleg y Pen ar Gwddf

Prynhawn Sadwrn

Darlith a gwaith grwp gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)
Cyflwyniadau’r myfyrwyr

Bore Dydd Sul

Dr Mair ParryYmgynghorydd Paedeatreg Ysbyty GwyneddPlant yn Gwichian (wheezing)
Dr Cerys Ap GwilymMeddyg Teulu gyda diddordeb arbennigol mewn GastroenteroloegDdatblygiadau mewn triniaeth o afiechyd llidus y perfedd (inflammatory bowel disease)
Cyfarfod Cyffredinol
Rhannwch hwn..