Penwythnos Meddygaeth a Gofal Brys

Gwener-Sul,

Chwefror 14-16, 2020

Gwersyll Yr Urdd Glan-llyn,

Y Bala

 


Astudio Meddygaeth a diddordeb mewn gofal brys? Ymunwch a ni am benwythnos dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn nhirwedd anghysbell Eryri, i brofi cyfres o senarios meddygaeth aciwt dan ofal meddygon sydd a diddordeb yn y maes. Cyfle unigryw i ddatblygu sgiliau clinigol arbennigol a’r gallu i reoli sefyllfa brys o dan amodau heriol.

Prydiau bwyd, llety a chyfarpar am ddim, gyda trafnidiaeth o Gaerdydd hefyd am ddim.

Croeso cynnes i fyfyrwyr meddygol o bob blwyddyn ac o bob Prifysgol.

Diddordeb? I gofrestru neu i gael manylion pellach e-bostiwch meddygaethcymraeg@caerdydd.ac.uk


Dyma adlewyrchiad Shôn o’i brofiad ar benwythnos flaenorol:

Fel myfyriwr meddygol blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, y penwythnos argyfwng gwledig oedd un o’r cyfleodd cyntaf i mi gael profi’r sgiliau clinigol a chyfathrebu roeddwn wedi eu dysgu yn fy neuddeg wythnos cyntaf yng Nghaerdydd. Credaf mai un o’r pethau mwyaf i mi ddysgu dros y penwythnos oedd faint roeddwn yn wybod ar ôl dim ond tymor yn yr ysgol feddygol. Roeddwn wedi magu digon o hyder i gyfathrebu â claf ac i geisio canfod beth oedd y broblem oedd yn sylfaen i’w phoen, rhywbeth fyddwn i bendant wedi bod yn fwy nerfus amdano yn y gorffenol.
Roedd y tiwtoriaid yn wych. Roedd ganddynt y gallu i gyflwyno achos i bobl ifanc o flwyddyn 12 yn y chweched dosbarth hyd at flwyddyn 5 yn yr ysgol feddygol mewn modd roedd pawb yn ddeall. O siarad gyda rhai o’r myfyrwyr blwyddyn 12, roedd yn glir eu bod nhw wedi dysgu llawer o fod ar y cwrs ac mae bendant yn brofiaf unigryw a gwahanol iawn i beth oedd ar gael pan oeddwn i’n gwneud cais prifysgol.
Gobeithiaf weld y digwyddiad yn mynd yn ei flaen blwyddyn nesaf.”
Diolch iddo am rannu.


Rhannwch hwn..