Teyrnged i’r diweddar Dr Denzil Davies

Newydd gynnal ein cynhadledd flynyddol mae’r Gymdeithas Feddygol. Hon oedd y gyntaf ers dwy flynedd oherwydd COVID. Roedd sawl peth yn anarferol amdani – y ffaith ei bod ar lein a’r ffaith nad oedd Dr Davies yno. Roedd yn un o’r 35 yn ein cynhadledd gyntaf erioed ym Mhlas Maenan, Llanrwst yn 1975 a bu’n cadeirio sesiynau gwyddonol yn yr 80au a’r 90au. Hyd yn oed wedi iddo ymddeol fel Meddyg Teulu, roedd yn ffyddlon tu hwnt i’n cyfarfodydd ac yn gwrando’n astud ar bob sgwrs o bob arbenigedd, a Beti Wyn gydag e yn gwmni. Roedd yn gefnogol a chroesawgar tuag at y myfyrwyr a’r meddygon ifanc fu’n rhan blaenllaw o’n cynadleddau diweddar, a throsglwyddodd y diddordeb a’r brwdfrydedd i genhedlaeth nesaf ei deulu ei hunan hefyd. Meddygaeth a iechyd a pharhau i ddysgu ac arloesi oedd ei ddilèit. Hyd yn oed yn ei farwolaeth, mae’n cyfrannu at ofal meddygol pobl Cymru gyda’r casgliad at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolchwn fel Cymdeithas gyfan am Dr Denzil Davies a’i gyfraniad hir oes: mi fydd bwlch ar ei ôl yn ein cynhadledd fyw nesaf. Pob cydymdeimlad i’r teulu i gyd – bydd y bwlch ar yr aelwyd honno yn fwy byth.